BORE DA!
Dyma rysêt hash brown llysieuol, iach, carb isel, llawn protein, sydyn a blydi lyfli i futa ben bore efo, neu heb, dy gi ffyddlon!
Tora nionyn a Blodfresych ych..sori dwi'n casau'r gair na..ga'i alw fo'n colifflowar plis?
A'i rhoi nhw'n fân mewn padell a chydig o olew.
Gad nhw grasu heb roi tro arnyn nhw er mwyn iddyn nhw frownio am tua 5 munud.
Yna adio smoked paprika, pupur du a digon o halen, garlleg (yep..er bod hi'n fora, ma'n cnesu'r enaid!)
Mi elli di adio unrhyw beth yma fel Harissa, Ras El Hanout, Croen Lemon di gratio, Tahini, Chilli neu Cumin (tria rhywbeth gwahanol bob tro)
Rho sblash bach o Ddwr
Yna cogionio gan droi bob hyn a hyn am hir, os tisho fo'n mwshi, neu lai os tisho crensh bach.
Ffria Wy mewn padall arall
Yna gweini'r wy am ben yr hash efo Parsli neu unrhyw herbs, dwi wedi defnyddio coriander yma.
Anodd ydy mynd heb sleisan o fara, felly dyro teciall mlaen, neu dyro'r jwg coffi ar y tân, a tostia dafall o sourdough neu fara o safon. Mmmmm a digon o fenyn ffarm llawn halan am ei ben o!
Mwynhewch heb deimlo'n euog!
Gan Lisa a Bobi Bingo'r Coli (blawd)
x x x x x





No comments:
Post a Comment